Gwell Ansawdd Bywyd Trwy Ddatblygu Dyfrffyrdd Cymru Yn Gynaliadwy
Mae Dyfrffyrdd i Gymru yn dechrau'r broses ymgynghori a fydd yn dod â rheiny sydd â diddordeb ynghyd i ddatblygu cynllun 'gwnaed yng Nghymru' ar gyfer ein dyfrffyrdd. Bydd y cynllun hwnnw'n darparu fframwaith strategol ac yn nodi'r camau gweithredu angenrheidiol i gynorthwyo i wella ansawdd bywyd yng Nghymru drwy:
- Sbarduno adfywio economaidd
- Gweithredu fel sbardun i adfer cefn gwlad
- Datblygu ffordd gynaliadwy o fyw
- Hyrwyddo bywiogrwydd treftadaeth ddiwylliannol Cymru
- Hyrwyddo Cymru i bedwar ban y byd
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ac anogaeth Sue Essex AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd a awgrymodd i ni gyflawni'r dasg hon. Rydym hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth weithredol llawer o aelodau'r Cynulliad sydd wedi ein hannog, yn enwedig, Aelodau'r Grwp Amlbleidiol ar Ddyfrffyrdd.
Mae gofalu am ddyfrffyrdd a dyfrfannau a'u datblygu yn cyffwrdd â chylch gorch wyl sawl asiantaeth yng Nghymru. Mae'r defnydd ohonynt a'r posibilrwydd o'u datblygu yn effeithio ar fuddiannau cymunedau gwahanol. Rhaid I ddatblygiadau fod yn sensitif i'w hanghenion ac i'r amgylchedd. Mae wedi bod yn amlwg i lawer ohonom na ellir gwireddu potensial dyfrffyrdd i fod o fudd oni bai fod pawb sydd â rhan i'w chwarae yn y gwaith yn cydweithio i wireddu gwel edigaeth gyffredin.
Mae'r ymgynghoriad Dyfrffyrdd i Gymru yn rhoi cyfle i ddatblygu'r weledigaeth honno ac i roi dyfrffyrdd ar yr agenda genedlaethol. Rwyf wir yn annog y dylai pawb sy'n berchen ar ddyfrffyrdd Cymru, yn gofalu mdanynt neu sydd â diddordeb ynddynt, neu sydd ag unrhyw ddiddordeb yn natblygiad economi, diwylliant a chymunedau Cymru, gymryd rhan yn y broses ymgynghori hon.
Robin Evans
Prif Weithredwr
Dyfrffyrdd Prydain
Bydd ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad ar lun dogfen Word ar gael ar y dudalenhon yn fuan.

